DIFFODDWCH – ARBEDWCH YNNI – ENILLWCH WOBRAU!
Helo
Mae’n haf bron â chyrraedd, ac ‘rydym yn gobeithio eich bod chi wedi cael blwyddyn anhygoel yn eich neuaddau. Diben yr e-bost hwn yw lansio ein cystadleuaeth tynnu-llun olaf o’r flwyddyn, felly gwnewch yn sicr eich bod yn cymryd rhan a cheisio am wobr, gan mai dyma yw eich cyfle olaf!
Felly os ydych chi eisiau ennill pecyn sebon LUSH yna gosodwch lun ar ein llinell-amser (www.facebook.com/swanseasso) ohonoch eich hun yn arbed ynni, yn ailgylchu neu’n defnyddio dŵr yn ddoeth. Mae hynny’n golygu…
– diffodd golau neu gyfarpar
– gosod caead ar sosban
– gwisgo dillad cynnes
– ailgylchu neu ailddefnyddio rhywbeth
– arbed dŵr
Bydd y 4 llun cyntaf yn ennill!
Pob lwc os ydych yn dal i fod ag arholiadau a thraethodau i’w cwblhau, a diolch i chi am eich holl ymdrechion i arbed ynni eleni!
Jesse – Myfyrwyr yn Diffodd