Caeadon ar sosbenni i ennill Ben & Jerry’s!

Helo,

“Fe welais ar y poster fod gosod caead ar fy sosban yn arbed amser ac ynni, nawr mae fy nŵdls yn coginio llawer cyflymach”

Dywedwyd y geiriau hyn wrthym gan fyfyriwr oedd yn awyddus i arbed ynni, ac maent yn berffaith wir. Gallwch arbed hyd at 90% o’r ynni sydd ei angen i goginio, ac mae’n haneru’r amser mae’n gymryd i gynhesu eich ffa-pob neu i ferwi dŵr!

I gyd sydd angen ei wneud i ddechrau yw gosod llun ar linell-amser www.facebook.com/TSDSSO ohonoch eich hun a’ch cyd-letywyr yn gosod caeadon ar sosbenni, a bydd y 5 llun cyntaf i gael eu huwchlwytho’n ennill Ben & Jerry’s

Stuart

Myfyrwyr yn Diffodd

DIFFODDWCH – ARBEDWCH YNNI – ENILLWCH WOBRAU!